Job Vacancy Ysgoloriaeth PhD - Astudiaethau’r Cyfryngau / Astudiaethau Ffilm
Job Reference No. CCI PhD
Salary: Cynigir grant sy’n gyfwerth â grantiau'r cynghorau ymchwil Prydeinig.
Closing Date: June 3, 2011
Interview Date: June 20, 2011
Terms: Fixed Term
Job Type: Academic
Job Class: External
Location: Cardiff
Ysgoloriaeth PhD – Astudiaethau’r Cyfryngau / Astudiaethau Ffilm
Prifysgol Morgannwg
Cyfadran y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
Cynigir grant sy’n gyfwerth â grantiau’r cynghorau ymchwil Prydeinig.
Mae Prifysgol Morgannwg yn gwahodd ceisiadau am Ysgoloriaeth PhD yn y maes pwnc Astudiaethau’r Cyfryngau / Astudiaethau Ffilm, i’w leoli yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn yr Atrium, yng Nghaerdydd.
Cynigir yr ysgoloriaeth am gyfnod o hyd at bum mlynedd, a chaiff ei gefnogi gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dylai fod gan ymgeiswyr radd ddosbarth cyntaf neu 2:1 mewn maes pwnc perthnasol, ac yn gallu dechrau eu hastudiaethau ar y 1af o Hydref 2011.
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymchwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau / ei chanfyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn cyfrannu at ddatblygiad y dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a chyfleoedd eraill o fewn y Gyfadran.
Dyddiad cau: 3 Mehefin 2011
Dyddiad cyfweld: 20 Mehefin 2011
Downloads
Related Information
If you have any queries about job applications, please email jobs@glam.ac.uk